BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Arwain mewn Gwlad Ddwyieithog

Os ydych chi’n gweithio yn y trydydd sector/gwirfoddol neu’r sector cyhoeddus, ac yn gweithio ar lefel Bwrdd neu’n uwch arweinydd, yn newydd yn eich swydd neu ynddi ers tro, newydd gyrraedd Cymru neu wedi bod yma o’r crud, dyma’r rhaglen i chi.

Mae’n rhaglen ni, Arwain mewn Gwlad Ddwyieithog, yn un o’r cynlluniau hyn. Mae’n gyfle i ddod at ein gilydd am ddiwrnod o weithdy gydag uwch arweinwyr eraill i drafod sut mae datblygu diwylliant dwyieithog ein sefydliadau. Croeso i bawb, waeth faint o Gymraeg maen nhw’n ei medru. Y cwbl sydd ei eisiau yw chwilfrydedd a pharodrwydd i sgwrsio. Canlyniad delfrydol y rhaglen fyddai datblygu’r arweinwyr sy’n mynychu i fod yn bencampwyr diwylliant i’r Gymraeg ffynnu ynddo. Awydd cael gwybod rhagor am ein huchelgais i’r Gymraeg? Piciwch draw i: Cymraeg 2050: strategaeth y Gymraeg.

A chithau’n uwch arweinydd, byddwch chi’n cymryd rhan yn y gweithdy diwrnod. Dyma ran gyntaf rhaglen datblygu diwylliannol ehangach i’ch sefydliad. O’ch rhan chi, dim ond y gweithdy diwrnod y bydd eisiau i chi gymryd rhan ynddo. Wedi hyn, byddwch chi’n enwebu dau uwch arweinydd yn eich sefydliad a fydd yn ymuno â ni ym mhum sesiwn ddilynol y rhaglen rhwng Medi 2023 a Chwefror 2024. Byddan nhw’n mynychu cymysgedd o ddigwyddiadau wyneb yn wyneb a rhai ar-lein hefyd.

Prin yw’r llefydd ar y cohort yma o’r rhaglen.

Mae’n debygol y bydd llawer o ofyn am lefydd, felly bydd angen i chi wneud cais. Dyddiad cau: 1 Mehefin 2023.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Arwain mewn Gwlad Ddwyieithog - Academi Wales (gov.wales)

Mae Helo Blod yn wasanaeth cyflym a chyfeillgar sydd yma i’ch  cynghori  ar sut i ddefnyddio ychydig (neu lawer) o Gymraeg yn eich busnes. Ac mae’r cwbl am ddim! I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Croeso i Helo Blod | Helo Blod (gov.wales)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.