BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Asbestos and You – adnoddau newydd ar gael

Mae ymgyrch Asbestos and You yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yn annog gweithwyr ym maes adeiladu i fod yn ymwybodol ynghylch aflonyddu ar asbestos.

Lansiwyd dau adnodd newydd am ddim, fel y gall gweithwyr brofi a gwella eu gwybodaeth am asbestos a’r risgiau sy’n gysylltiedig ag asbestos. 

  • Cymerwch gwis cyflym Asbestos and You i brofi eich gwybodaeth am risgiau asbestos a sut i amddiffyn eich hun a phobl eraill rhag dod i gysylltiad â ffibrau asbestos.
  • Gwyliwch y weminar Lurking in the shadows - the truth about asbestos a gynhaliwyd gan y Sefydliad Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol er mwyn dysgu rhagor am yr ymgyrch a chlywed arbenigwyr yn trafod y risgiau sy’n parhau i fod yn gysylltiedig ag asbestos, yn enwedig ymhlith gweithwyr iau.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen Asbestos and You campaign


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.