BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Asesiad Parodrwydd i Addasu i’r Hinsawdd ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod

relish jars with made in Wales text and Welsh dragon on labels

Mae Asesiad Parodrwydd i Addasu i’r Hinsawdd newydd ar-lein bellach ar gael i helpu busnesau bwyd a diod i werthuso pa mor agored i niwed ydynt o ran newid hinsawdd. Mae'r adnodd hwn yn cynorthwyo busnesau i nodi eu cryfderau a meysydd i'w gwella o ran parodrwydd i addasu i’r hinsawdd.

Mae’r asesiad yn rhoi adborth ar unwaith ar wyth maes allweddol: Gweithrediadau a’r Gadwyn Gyflenwi, Rheoli Ynni ac Adnoddau, Rheoli Dŵr, Cynhyrchion a Deunydd Pecynnu, Llywodraethu a Pholisi, Pobl, Ariannol a Chyfreithiol, ac Ymgysylltu â Chwsmeriaid a Defnyddwyr.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Offer cynaliadwyedd ar gyfer eich busnes – Bwyd a Diod Cymru


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.