BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Astudiaethau achos newydd gan WRAP ar Defnyddio Cynnwys Eilgylch yn Arloesol

Rhwng 2019 - 2022, mae WRAP wedi gweithio ar y cyd â mwy nag 20 o sefydliadau partner, gan gynnwys busnesau yng Nghymru, i gyflawni pedwar a sefydliadau academaidd prosiect cadwyn gyflenwi.

Mae'r astudiaethau achos canlynol yn nodi'r rhwystrau a'r hyn a ddysgwyd o'r treialon. Ariannwyd y treialon gan Lywodraeth Cymru.

Datblygwyd yr astudiaethau achos i roi hyder i weithgynhyrchwyr yng Nghymru a thu hwnt archwilio ffyrdd o gynyddu'r defnydd o gynnwys eilgylch yn eu cynnyrch. Mae'r ddogfen yn cynnwys trosolwg o bob prosiect, heriau a wynebwyd a sut wnaeth timau'r prosiect eu goresgyn.

Er nad arweiniodd pob treial at gynnyrch parod i'r farchnad, yn bennaf oherwydd amodau gweithredu heriol a grëwyd gan y pandemig, arweiniodd pob un at wersi pwysig a fydd yn parhau i wthio'r farchnad yn ei blaen. 

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Defnyddio Cynnwys Eilgylch yn Arloesol | WRAP (wrapcymru.org.uk)

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.