BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

ASTUTE 2020: Cefnogi Gweithgynhyrchu yng Nghymru trwy’r Cyfyngiadau

Mae ASTUTE 2020 (Technolegau Gweithgynhyrchu Cynaliadwy Uwch), a arweinir gan Brifysgol Abertawe mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, yn caniatáu lefel uwch o arloesedd busnes yn nhechnolegau gweithgynhyrchu’r dyfodol, gan sbarduno a chefnogi ymchwil, datblygu ac arloesedd blaengar.

Os ydych chi’n gwmni gweithgynhyrchu, gallwch chi gael mynediad at arbenigwyr ymchwil Prifysgol sydd â ffocws ar ddiwydiant i gefnogi eich busnes i dyfu allan o’r cyfnod clo a meithrin gwydnwch hirdymor.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan ASTUTE.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.