BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Atal aflonyddu rhywiol yn y gwaith: rhestr wirio a chynllun gweithredu ar gyfer y diwydiant lletygarwch

Ochr yn ochr â UKHospitality, mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) wedi lansio rhestr wirio a chynllun gweithredu i helpu cyflogwyr yn y diwydiant lletygarwch i fynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol yn erbyn eu staff. Mae dros hanner y menywod a dwy ran o dair o bobl LGBT yn dweud eu bod wedi profi aflonyddu rhywiol yn y gweithle, gyda'r broblem yn arbennig o ddifrifol yn y sector lletygarwch. 

Mae'r adnodd ymarferol hwn yn cynnwys cyngor diogelwch ac ataliol ar gyfer lleoliadau lletygarwch. Er enghraifft, cynghori bod polisïau cyson yn cael eu rhoi ar waith ar gyfer delio â chwsmeriaid sy'n ymddwyn yn amhriodol o amgylch gweithwyr ac osgoi cael un aelod o staff yn gweini un grŵp mawr, pan fydd aflonyddu rhywiol yn fwy tebygol o ddigwydd. 

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi gweithio'n agos gyda'r diwydiant lletygarwch i ddatblygu'r canllawiau hyn, ond gellir eu cymhwyso i unrhyw weithle. 

Ewch i wefan UKHospitality i gael mwy o wybodaeth - Preventing Sexual Harassment - UKHospitality

Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-Lein,  mae BOSS yma i'ch helpu chi a'ch busnes i ddatblygu drwy ddysgu ar-lein.

Aflonyddu Rhywiol Yn Y Gweithle – yn y cwrs hwn, byddwn yn eich helpu i ddeall mwy am aflonyddu rhywiol yn y gweithle a beth allai hyn ei olygu i chi. Ewch i'r cwrs BOSS: BOSS: Ynglŷn â Aflonyddu Rhywiol yn y Gweithle (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.