Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi llunio canllawiau ar sut i atal damweiniau i blant ar ffermydd.
Mae gan amaethyddiaeth un o'r cyfraddau anafiadau angheuol uchaf o unrhyw ddiwydiant ym Mhrydain Fawr ond dyma'r unig ddiwydiant risg uchel sy'n gorfod delio â phresenoldeb cyson plant. Mae ffermydd yn gartrefi yn ogystal â gweithleoedd, ac mae'n bosibl y bydd ymwelwyr, gan gynnwys plant, hefyd yn bresennol ar ffermydd.
Gallwch ddod o hyd i gyngor ac arweiniad yng nghyhoeddiad yr HSE Atal damweiniau i blant ar ffermydd.
Mae gan wefan amaethyddiaeth yr HSE amrywiaeth o adnoddau i helpu ffermwyr reoli risgiau'n briodol, yn ogystal â chanllawiau pellach ynghylch cadw plant yn ddiogel ar y fferm.