BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Atal straen yn gysylltiedig â gwaith: prif achos salwch yn y gwaith

Straen, gorbryder ac iselder yw'r achos mwyaf o salwch yn gysylltiedig â gwaith ym Mhrydain Fawr ac mae'r niferoedd yn parhau i godi.

Yn ôl yr ystadegau diweddaraf (PDF), roedd 914,000 o weithwyr yn dioddef o straen, iselder neu bryder yn gysylltiedig â gwaith yn 2021/22. Collwyd 17 miliwn o ddiwrnodau gwaith oherwydd straen yn y cyfnod hwn.

Mae gan wefan straen yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) ddigonedd o gyngor ac mae'n cynnwys enghreifftiau o asesiadau risg straen wedi'u teilwra i fusnesau o wahanol feintiau, yn ogystal ag astudiaethau achos a llawer mwy.

Mae’r stress talking toolkit yn dangos sut y gall rheolwyr llinell gael sgyrsiau syml, ymarferol gyda gweithwyr i helpu atal straen yn y gwaith.

Nod eu hymgyrch Working Minds yw atal straen yn gysylltiedig â gwaith ac annog iechyd meddwl da.

Mae pennod ddiweddaraf podlediad yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn trafod pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth i atal straen yn gysylltiedig â gwaith ac i hybu iechyd meddwl da.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.