Mae llywodraeth San Steffan wedi atal tariffau ar gynhyrchion meddygol sy’n cael eu defnyddio yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws, gan leihau costau’r eitemau hanfodol hyn i sefydliadau ledled y DU.
Bydd y mesurau newydd, sy’n sicrhau na fydd tariffau’n ddyledus ar fewnforio nwyddau gan gynnwys masgiau wyneb, menig a chyfarpar amddiffynnol eraill, yn dod i rym ar 1 Ionawr 2021.
Mae’r rhain yn adeiladu ar y rhyddhad tariffau gydol 2020, ar gael i fewnforwyr i gyd ac yn cael eu cyflwyno’n awtomatig. Byddant yn para am flwyddyn, yn amodol ar adolygiadau rheolaidd.
Rhagor o wybodaeth ar wefan GOV.UK