BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Atgoffa pobl yng Nghymru sut i helpu i atal heintiau anadlol rhag lledaenu

Mae’r Dirprwy Brif Swyddog Meddygol, Dr Chris Jones, yn atgoffa pobl i aros gartref ac osgoi cyswllt ag eraill os ydyn nhw’n sâl ac os oes ganddyn nhw dymheredd uchel.

Gall heintiau anadlol, fel y ffliw a COVID-19, ledaenu’n hawdd rhwng pobl. Mae symptomau’n amrywio o beswch parhaus, gwres neu deimlo’n oer, poenau yn y cyhyrau neu boenau nad ydyn nhw o ganlyniad i ymarfer corff, dolur gwddf, trwyn yn llawn neu’n rhedeg, dolur rhydd, teimlo’n sâl a thaflu i fyny.

Nid yw COVID-19 wedi diflannu ac mae’n parhau i ddatblygu a newid.

Mae rhaglen frechu’r hydref yng Nghymru yn dechrau ar 11 Medi 2023. Bydd brechiadau rhag y ffliw a COVID-19 yn cael eu cyflwyno i bobl dros 65 oed, pobl yn y grwpiau risg a’r rhai sy’n gweithio neu’n byw gyda phobl sy’n agored i niwed.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Atgoffa pobl yng Nghymru sut i helpu i atal heintiau anadlol rhag lledaenu | LLYW.CYMRU

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.