BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE): Pwyntiau allweddol i'w hystyried ar gyfer busnesau sy'n ailagor yng Nghymru

Wrth i fesurau’r cyfnod clo lacio yng Nghymru, mae angen i fusnesau aros yn wyliadwrus a sicrhau bod eu mesurau diogelwch COVID, yn ogystal â mesurau iechyd a diogelwch eraill, ar waith i ddiogelu gweithwyr, ymwelwyr ac eraill.

Mae bod yn ddiogel o ran COVID yn golygu gallu addasu i'r canllawiau cyfredol a bod mesurau ar waith i reoli'r risg o goronafeirws. 

Mae'r rheolaethau gweithle canlynol yn aros yr un fath:

Wrth i’r economi ailagor, sicrhewch fod eich gweithle’n ddiogel trwy ddilyn cyngor y llywodraeth ar Busnes a chyflogwyr: coronafeirws.

Mae Llywodraeth Cymru wedi creu canllawiau i gyflogwyr ar orchuddion wyneb yn y gweithle: Gorchuddion wyneb: canllawiau ar y mesurau i'w cymryd gan gyflogwyr a rheolwyr mangreoedd

Cofiwch eich asesiad risg COVID 

Dylai fod gan bob gweithle asesiad risg COVID dylech ei ddiweddaru i adlewyrchu unrhyw newidiadau mewn deddfwriaeth neu ganllawiau a allai effeithio ar eich gweithgaredd gwaith, er enghraifft newidiadau mewn cyfyngiadau lleol neu genedlaethol.

Dylech hefyd siarad â staff, darparu gwybodaeth, ac ystyried y risg i weithwyr sy'n arbennig o agored i goronafeirws - gan roi rheolaethau ar waith i leihau'r risg honno.

Awyru

Gall Awyru digonol (gan gynnwys aerdymheru) helpu lleihau risg lledaenu coronofeirws yn y gweithle.

Siarad â'ch gweithwyr am ddychwelyd i'r gwaith

Gall dychwelyd i'r gweithle fod yn anodd i rai gweithwyr, gan eu gwneud yn fwy agored i straen yn y gweithle.

Mae HSE wedi diweddaru ei ganllaw i'ch helpu chi i siarad â’ch gweithwyr am ddarparu cefnogaeth a chynnal mesurau rheoli pan fydd pobl yn dychwelyd i'r gwaith.

Archwilio a phrofi offer

Dylid gwirio offer sy'n cael ei storio neu heb ei ddefnyddio am gyfnodau hir am ddifrod neu ddirywiad. Rydym wedi diweddaru cyngor ar archwilio a phrofi offer yn drylwyr wrth i gyfyngiadau cael eu llacio.

Clefyd y Llengfilwyr

Os yw eich adeilad wedi cau neu wedi cael llai o deiliadaeth yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19), gall marweidd-dra system ddŵr ddigwydd oherwydd diffyg defnydd, gan gynyddu peryglon Clefyd y Llengfilwyr. Gwelwch ein canllawiau ar glefyd y llengfilwyr yn ystod y pandemig coronafeirws.

Hapwiriadau ac arolygiadau

Mae HSE yn parhau i gynnal hapwiriadau ac arolygiadau ar fusnesau ym mhob sector a rhanbarth i wirio bod ganddynt fesurau diogelwch COVID ar waith. Mae hyn yn cynnwys busnesau sydd wedi bod yn gweithredu trwy gydol y pandemig, a'r rhai sy'n dechrau ailagor.

Yn ystod yr hapwiriadau a'r arolygiadau, darperir cyngor ac arweiniad i helpu i reoli risg ac i ddiogelu gweithwyr ac ymwelwyr, ond lle nad yw busnesau'n rheoli hyn, cymerir camau ar unwaith.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar hapwiriadau ac arolygiadau.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.