BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Awdurdodi Teithio Electronig - Diweddariad

Airport terminal

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi'r cam nesaf wrth gyflwyno Awdurdodiadau Teithio Electronig (ETAs).

Mae ETA yn rhoi caniatâd i ymwelwyr deithio i'r DU. Erbyn mis Ebrill 2025, bydd angen i bob ymwelydd nad oes angen fisa arnynt gael ETA i deithio i'r DU - bydd hyn yn cynnwys ymwelwyr o'r Unol Daleithiau ac Ewrop.

  • Gall Pobl gymwys nad ydynt yn Ewropeaid wneud cais ymlaen llaw o 27 Tachwedd 2024 a bydd angen ETA arnoch i deithio i'r DU o 8 Ionawr 2025.
  • Gall Ewropeaid Cymwys wneud cais o 5 Mawrth 2025 a bydd angen ETA arnynt i deithio i'r DU o 2 Ebrill 2025.

Bydd y cenhedloedd hynny sydd fel arfer angen fisa i ymweld â'r DU yn parhau i wneud hynny ac ni ddylent gael ETA. Gweler y rhestr lawn o wledydd y bydd angen iddynt wneud cais am ETA ar GOV.UK.

Os hoffech wybod mwy am ETAs, archebwch le ar un o ddigwyddiadau gwybodaeth Llywodraeth y DU.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.