Mae gan Innovate UK nifer eang o gyfleoedd cyllid sydd ar agor i fusnesau Cymru i arloesi a fuddsoddi mewn Ymchwil Datblygu ac Arloesi.
Gall y tîm Arloesi Llywodraeth Cymru eich helpu i gyrchi’r cyllid yma ac i helpu’ch busnes yn bellach: Digwyddiadur Busnes Cymru - CRISP24 - Cyfarfod Cymorth Ar-Lein
Grantiau clyfar
Gall sefydliadau sydd wedi’u cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £25 miliwn ar gyfer arloesiadau ymchwil a datblygu sy’n chwyldroadol ac sy’n fasnachol hyfyw a all gael effaith sylweddol ar economi’r DU. Dyddiad cau: 23 Hydref 2024 am 11am. Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais.
Benthyciadau arloesi economi’r dyfodol: rownd 16
Gall busnesau sydd wedi’u cofrestru yn y DU wneud cais am fenthyciadau ar gyfer prosiectau arloesol sydd â photensial masnachol cryf i wella economi’r DU yn sylweddol. Dyddiad cau: 28 Awst 2024 am 11am. Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais.
Partneriaethau Buddsoddwyr: Busnesau Bach a Chanolig rownd 8
Gall busnesau bach a chanolig sydd wedi’u cofrestru yn y DU wneud cais am gyllid grant ochr yn ochr â buddsoddiad preifat gan bartneriaid buddsoddi dethol. Dyddiad cau: 14 Awst 2024 am 11am. Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais.
Arddangos cadwyn gyflenwi BridgeAI
Gall sefydliadau sydd wedi'u cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £2 filiwn o gyllid grant i gyflawni prosiectau arddangos deallusrwydd artiffisial (AI). Dyddiad cau 21 Awst 2024 am 11am. Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais.
Pad Lansio: y clwstwr morol a morwrol yn Ne Orllewin Fawr, Lloegr: rownd 2
Gall sefydliadau sydd wedi'u cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £3 miliwn ar gyfer prosiectau a arweinir gan fusnesau sy'n tyfu eu gweithgareddau arloesi yng nghlwstwr morol a morwrol De Orllewin Fawr, Lloegr. Dyddiad cau: 16 Hydref 2024 am 11am. Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais.
Technoleg cwantwm Ewrop 2024
Gall sefydliadau sydd wedi'u cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £3 miliwn ar gyfer gweithgareddau ymchwil ac arloesi cwantwm. Dyddiad cau: 28 Awst 2024 am 11am. Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais.
Ymchwil a Datblygu cydweithredol Eurostars, Eureka: rownd 7
Gall sefydliadau sydd wedi'u cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £2.5 miliwn ar gyfer ymchwil a datblygu cydweithredol (YaD) mewn partneriaeth â sefydliadau o wledydd Eurostars sy’n cymryd rhan. Dyddiad cau: 12 Medi 2024 am 11am Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais.
Partneriaethau trosglwyddo gwybodaeth (KTP): 2024 i 2025 rownd tri
Gall sefydliadau academaidd, sefydliadau ymchwil a thechnoleg (RTOs) neu ganolfannau Catapwlt sydd wedi’u cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £9 miliwn i ariannu prosiectau arloesi gyda busnesau neu sefydliadau nid-er-elw. Dyddiad cau: 25 Medi 2024 am 11am. Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais.