Bydd cystadleuaeth Uwchgynhadledd Systemau Bwyd y Cenhedloedd Unedig, ‘Best Small Business: Good Food for All’, yn nodi’r BBaChau gorau o bob cwr o’r byd sy’n trawsnewid systemau bwyd i sicrhau gwell yfory.
Dyddiad cau’r gystadleuaeth yw 6 Mehefin 2021 ac mae’n agored i unrhyw fusnes sydd â rhwng pump a 250 o gyflogeion ac sy’n ymwneud ag unrhyw agwedd ar y gadwyn gyflenwi a gwerth bwyd.
Mae’n gyfle gwych i fusnesau bach gael cyhoeddusrwydd, yn ogystal â chyfran o’r wobr £100,000!
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan y Cenhedloedd Unedig.