Drwy ddarpariaeth Rhwydwaith BFI Cymru, mae Ffilm Cymru yn comisiynu ffilmiau byr o ansawdd fyd-eang ar ffurf gweithredu byw, ffilmiau dogfen ac animeiddiadau, mewn partneriaeth â BBC Cymru Wales.
Mae Beacons yn darparu cyllid yn ogystal â chymorth creadigol ac ymarferol a chyfleoedd hyfforddiant a mentora i helpu gwneuthurwyr ffilmiau i fwrw ymlaen â’u gyrfa. Mae ffilmiau byr Beacons wedi cael llwyddiant mewn gwyliau, wedi ennill nifer o wobrwyon, ac wedi’u darlledu ar BBC Cymru Wales a’u rhyddhau ar iPlayer.
Pwy all wneud cais?
Rydym yn derbyn ceisiadau oddi wrth:
- Timau awdur, cyfarwyddwr (neu awdur-gyfarwyddwr) a chynhyrchydd
- Timau awdur a chyfarwyddwr (neu awdur-gyfarwyddwr unigol) lle nad oes cynhyrchydd yn gysylltiedig ar hyn o bryd
- Dylai awduron, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr yn flaenorol fod wedi ysgrifennu, cyfarwyddo neu gynhyrchu o leiaf un ffilm fer sydd wedi’i dangos neu’i darlledu’n gyhoeddus a/neu fod â hanes blaenorol mewn cyfrwng creadigol cysylltiedig (e.e. theatr, teledu, delwedd symudol, cyfresi ar y we, gemau, cynnwys ymdrochol)
- Byddwn hefyd yn ystyried rhai sydd â phrofiad mewn rolau sgrin perthnasol eraill (e.e. cyfarwyddwr ffotograffiaeth sy’n dymuno cyfarwyddo)
- Mae’n rhaid i’r cyfarwyddwr ar y prosiect fod wedi’u geni yng Nghymru a/neu fod yn seiliedig yng Nghymru
Pa fath o ffilm fer sy’n gymwys?
Ffilm gweithredu byw, animeiddiad, ffilm ddogfen neu hybrid o hyd at 15 munud o hyd.
Am faint allaf i wneud cais?
Hyd at £15,000.
Beth yw’r dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau?
Dydd Mawrth 5 Gorffennaf 2022 am 3pm.
I gael mwy o wybodaeth, ewch i Beacons: Cyllid ar gyfer Ffilmiau Byrion | Ffilm Cymru (ffilmcymruwales.com)