BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Beth am Drafod... Pŵer Busnesau Cynhwysol

Mae busnesau'n chwarae rôl sylfaenol wrth fynd i'r afael â heriau byd-eang. Gall sefydliadau corfforaethol mawr hefyd fod yn rym er gwell mewn cymunedau, gallant ddarparu cyfleoedd bywoliaeth a chau bylchau mynediad i unigolion nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol.

Mae entrepreneuriaid a busnesau llai yn chwarae rhan yn hyn hefyd.

Nawr yn fwy nag erioed, mae angen i fusnesau wneud y mwyaf o'u heffaith gynhwysol. Mae angen iddynt sicrhau bod eu gwasanaethau/cynhyrchion yn gwasanaethu, yn cysoni ac yn integreiddio anghenion cymunedau a rhanddeiliaid amrywiol.

Ymunwch â gweminar Innovate UK i glywed gan weithwyr proffesiynol sy'n adeiladu byd tecach a mwy cynaliadwy drwy eu prosiectau a thrwy gefnogi entrepreneuriaid amrywiol sy'n gwneud eu marc ym maes arloesi cyfrifol.

Mae'r gyfres weminar “Let’s Talk About…” a ddechreuwyd yn 2020 wedi'i chynllunio i sbarduno sgyrsiau pwerus, rhannu straeon, a darparu cyngor ysbrydoledig gan fenywod a chynghreiriaid gwrywaidd sydd wrth wraidd y drafodaeth. Gallwch wrando ar y gweminarau blaenorol yma: Let’s talk about…Making your own path - Innovate UK KTN (ktn-uk.org)

Cynhelir y gweminar ar 21 Gorffennaf rhwng 10am ac 11am.

I gael mwy o wybodaeth, ewch Let’s talk about…The Power of Inclusive Businesses - Innovate UK KTN (ktn-uk.org)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.