BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Beth am inni siarad am y menopos

Helpwch ni i dorri'r stigma fel bod pobl o bob oed yn gallu cyflawni eu gwir botensial yn y gwaith.

Mae'r menopos yn gyfnod naturiol o fywyd ac eto mae'n parhau'n bwnc tabŵ mewn sawl gweithle. Mae pobl sy'n profi symptomau'r menopos angen yr un gefnogaeth a dealltwriaeth gan eu cyflogwr ag unrhyw un sy'n profi unrhyw gyflwr iechyd parhaus.

Mae angen i gyflogwyr dorri'r stigma a'r tabŵ sy'n gysylltiedig â'r menopos yn y gwaith a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol lle mae gweithwyr a rheolwyr yn teimlo'n hyderus i drafod unrhyw addasiadau ymarferol y gallai fod eu hangen.

Mae gan y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) ddeunyddiau cymorth, canllawiau, gweminarau a phodlediadau ar gyfer gweithwyr proffesiynol a rheolwyr pobl.

Gallwch hefyd gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr achosion allweddol ar y menopos yn y gweithle a'r goblygiadau i gyflogwyr.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol https://www.cipd.co.uk/knowledge/culture/well-being/menopause

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.