Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi paratoi canllawiau ar gyfer pobl ym myd busnes sydd â dyletswyddau o dan y gyfraith iechyd a diogelwch, er enghraifft, cyflogwyr a’r rheini sy’n rheoli yn y gweithle.
Maent yn esbonio beth gallwch chi ei ddisgwyl pan fydd arolygydd iechyd a diogelwch yn galw heibio i’ch gweithle.
Yn ogystal â hyn, maent yn dweud wrth weithwyr a’u cynrychiolwyr pa wybodaeth y gallant ddisgwyl ei chael gan arolygydd yn ystod ymweliad.
I ddarllen y canllawiau, ewch i wefan HSE.