BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Beth yw ACLl? Canllawiau ar gyfer Busnesau

What is ESG?

Mae Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethiant (ACLl) yn set o safonau sy’n mesur effaith amgylcheddol, gymdeithasol a llywodraethiant busnes, gan werthuso tryloywder o ran arweinyddiaeth, tâl swyddogion gweithredol, archwiliadau, rheolaethau, a hawliau cyfranddalwyr.

Credir bod gweithredu arferion ACLl yn dangos ymrwymiad i ymddygiad busnes cynaliadwy a chyfrifol. Mae dau o bob tri buddsoddwr yn ystyried ffactorau ACLl, felly mae integreiddio’r egwyddorion hyn yn helpu i reoli risgiau, yn ogystal â rhoi’r cwmni mewn sefyllfa ffafriol ar gyfer twf hirdymor posibl.

Mae deall ac ymgorffori strategaethau ACLl yn gallu chwarae rhan mewn sicrhau llwyddiant busnes, gan gyfrannu ar yr un pryd at effeithiau cadarnhaol ar yr amgylchedd a’r gymuned.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r wefan ganlynol: What is ESG? A guide for businesses - British Business Bank


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.