Ymunwch â Chwarae Teg am weithdy 45 munud AM DDIM i archwilio ffactorau cyfranogol allweddol wrth adeiladu amgylchedd cynhwysol ac arweinyddiaeth gynhwysol.
Mae llawer o astudiaethau wedi cael eu cynnal ar y berthynas rhwng amrywiaeth a chynhwysiant a pherfformiad cwmni, ac mae bron pob un ohonynt wedi dod i'r un casgliad. Yn syml: mae amrywiaeth a chynhwysiant yn dda i fusnes.
Bydd y gweithdy'n cynnwys:
- Cyflwyniad
- Beth yw ystyr 'cynhwysiant'?
- Beth yw arweinydd cynhwysol?
- Sut i wneud i hynny ddigwydd
- Sut mae sefydliad yn creu arweinyddiaeth gynhwysol?
- Holi ac ateb
Cynhelir y gweithdy ar-lein ar 13 Chwefror 2023 gyda dyddiadau ym mis Mawrth a mis Ebrill hefyd.
I gael mwy o wybodaeth ac i drefnu lle, cliciwch ar y ddolen ganlynol What is inclusive leadership? Tickets, Multiple Dates | Eventbrite