BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Beth Yw Eich Barn Am Y Cynnig Sgiliau A Hyfforddiant Yn Ne-Orllewin Cymru – Arolwg Sgiliau Cyflogwyr 2022

Ers i ni gyhoeddi'r Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau ar gyfer rhanbarth De-orllewin Cymru, bu newid enfawr yn y ffordd y mae pobl yn gweithio; y mathau o swyddi sydd ar gael ac, yn bwysicach efallai, y sgiliau sydd eu hangen bellach gan ddiwydiant i hybu eu busnesau ar ôl y pandemig. Mae'r cyfnod cythryblus y mae llawer wedi'i wynebu dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi golygu bod sgiliau newydd wedi'u nodi fel gofyniad allweddol i fusnesau ac felly mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn sicrhau ein bod yn darparu'r sgiliau cywir yn ein colegau a'n prifysgolion; drwy ein darpariaeth prentisiaethau a thrwy'r cynnig galwedigaethol mewn ysgolion. 

Mae eich cyfranogiad CHI yn y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau ar gyfer 2022-2025 yn allweddol i sicrhau ein bod yn rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru pa sgiliau sydd eu hangen yn ein hardal a ble mae angen iddynt ddyrannu eu cyllid er mwyn bodloni'r gofynion sgiliau a nodwyd.

Mae cannoedd o fusnesau o bob rhan o'r rhanbarth wedi bod yn ymgysylltu â'r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol (RLSP) nid yn unig drwy ein harolwg sgiliau ar-lein ond drwy ein grwpiau clwstwr yn y sector Diwydiant, sy'n gyfle i bawb ddweud eu dweud am sgiliau a thrafod anghenion sgiliau yn y dyfodol wrth i ddiwydiannau ddatblygu.  Diolch ichi am eich cyfranogiad a gobeithiwn y byddwch yn parhau yn y ddeialog â'r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol ac yn dweud eich dweud yn y cynllun yr ydym yn ei baratoi ar hyn o bryd.

Ar gyfer y miloedd o fusnesau micro, bach, canolig a mawr yn y rhanbarth nad ydynt eisoes wedi ymwneud â'r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol, rydym yn un o bedair partneriaeth sgiliau yng Nghymru sy'n gweithio ar draws y rhanbarth i ddeall y blaenoriaethau allweddol o ran sgiliau y mae diwydiannau yn ein rhanbarthau yn eu hwynebu. Rydym yn defnyddio'r wybodaeth hon i lywio'r Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru i lywio'r broses o ddyrannu cyllid ar gyfer hyfforddiant yng Nghymru ac yn enwedig yn ein rhanbarth. Byddem yn ddiolchgar iawn pe baech yn ymuno â ni yn y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol i sicrhau y gallwn gynnwys eich llais yn ein cynllun. Gallwch ymuno â grŵp clwstwr diwydiant neu gwblhau'r arolwg ar-lein neu gysylltu â ni i gael trafodaeth.

Mae'r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol hefyd yn arwain ar y Rhaglen Sgiliau a Thalentau ar gyfer Rhaglen Bargen Ddinesig Bae Abertawe, gyda chyllid ar gyfer prosiect peilot allweddol i ddatblygu'r atebion hyfforddi arloesol hynny ar gyfer cyrsiau nad ydynt yn cael eu darparu yn ein hardal ar hyn o bryd. Gallwch gymryd rhan drwy gysylltu â'r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol  yn ein grwpiau clwstwr neu arolygon.

Mae dolen i'r holiadur byr ar-lein isod ac ni fydd yn cymryd mwy nag 8 munud i chi ei gwblhau ond gallai wneud gwahaniaeth enfawr i'r dirwedd sgiliau yn y rhanbarth.  Rydym am ragori ar ein targed ymgysylltu eleni a hoffem glywed gan o leiaf 2000 o fusnesau am yr hyn yr hoffech ei weld yn digwydd o ran datblygu sgiliau yn ein rhanbarth.

Byddwch yn rhan o'r broses o newid y dirwedd sgiliau drwy gwblhau'r arolwg heddiw, peidiwch ag oedi! Anfonwch yr arolwg ymlaen i'ch cysylltiadau busnes a'u hannog i gymryd rhan a lleisio eu barn ar sgiliau yn Ne-orllewin Cymru.

Defnyddiwch y ddolen isod i gwblhau'r arolwg. Bydd yr arolwg yn cau dydd Sul 15 Mai 2022.

https://www.surveymonkey.co.uk/r/3B2GJFF 
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.