BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Beth yw Masnach Deg?

Ffermio yw’r cyflogwr mwyaf yn y byd ond nid yw miliynau o bobl sy’n byw ac yn gweithio ar ffermydd tyddynwyr yn ennill digon i ddarparu ar gyfer naill ai eu hunain neu eu teuluoedd.

Yn aml, y cymunedau hyn yw’r rhai sy’n cael eu heffeithio fwyaf gan newid hinsawdd er eu bod wedi gwneud y lleiaf i gyfrannu ato.

Mae Masnach Deg yn fudiad byd-eang sy’n rhoi pobl a’r blaned o flaen elw. Pan fydd cynhyrchwyr yn derbyn pris teg am eu nwyddau mae’n arwain at well amgylchedd gwaith a gwell ansawdd bywyd iddynt hwy a’u teuluoedd. Mae Masnach Deg yn cymryd agwedd gyfannol trwy gysylltu cynhyrchwyr a defnyddwyr trwy wneud cadwyni cyflenwi yn fwy eglur a cynnig gwell dewisiadau ar gyfer siopa’n gyfrifol. Dylai cyfiawnder, tegwch a datblygu cynaliadwy fod wrth wraidd strwythurau masnach gyfartal ac mae Masnach Deg yn bartneriaeth ar gyfer newid a datblygu trwy fasnach.

Mae Masnach Deg (neu Fairtrade fel un gair yn y Saesneg) yn set o safonau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ar gyfer cwmnïau a’r ffermwyr a’r gweithwyr sy’n cynhyrchu nwyddau fel bananas, coffi a siocled. Wrth brynu Masnach Deg, rydych chi’n cefnogi system sy’n gwarantu bod cynhyrchwyr yn derbyn prisiau gwell a thelerau masnach teg. Mae hyn yn helpu ffermwyr a gweithwyr i fuddsoddi mewn prosiectau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol o’u dewis eu hunain a all helpu i leddfu effeithiau newid yn yr hinsawdd a bod o fudd i bobl ledled y byd.

Cymryd Rhan

Os ydych am brynu nwyddau Masnach De gar raddfa fwy ar gyfer eich gwaith neu eich sefydliad, yna edrychwch ar canllawiau prynu i’ch helpu gyda’ch anghenion caffael, neu edrychwch ar ganllawiau prynu’r Sefydliad Masnach Deg.

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol Beth yw Masnach Deg? - Fair Trade Wales

Mae bod yn fusnes cyfrifol yn golygu bod o fudd i’r bobl a’r lleoedd o’ch cwmpas yn ogystal â chael effaith gadarnhaol ar eich busnes. Mae’n ymwneud â’r ffordd yr ydych yn edrych ar ôl eich staff yn eich gweithle, eich perthynas gyda’ch cyflenwyr yn y farchnad, eich rhan ym mywyd y gymuned a’ch effaith ar yr amgylchedd. I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol Busnes Cyfrifol | Drupal (gov.wales)  


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.