BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Bil arloesol er mwyn gwahardd plastigion untro yng Nghymru ac osgoi gadael ‘gwaddol gwenwynig’ i genedlaethau’r dyfodol

Heddiw (20 Medi 2022), bydd cam allweddol yn cael ei gymryd i leihau’r llif o wastraff plastig sy’n dinistrio bywyd gwyllt a’r amgylchedd yng Nghymru gan y disgwylir i Fil sy’n gwahardd plastigion untro gael ei osod gerbron y Senedd.

Mae mynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur yn ganolog i flaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Caiff y rhan fwyaf o blastigion eu gwneud o danwyddau ffosil. Gall eu lleihau gynorthwyo ein hymdrechion tuag at sero net, gan helpu i ostwng ein hôl troed carbon er mwyn lleihau effeithiau gwaethaf yr argyfwng hinsawdd.

Yn 2011, Cymru oedd un o’r gwledydd cyntaf yn y byd i godi tâl am fagiau siopa untro. Ar hyn o bryd, Cymru yw’r trydydd ailgylchwr domestig gorau yn y byd.

O hyn ymlaen, bydd Llywodraeth Cymru ar flaen y gad o ran gweithredu ar blastig gyda’r nod i Gymru fod y rhan gyntaf o’r DU i ddeddfu yn erbyn rhestr mor gynhwysfawr o blastigion untro.

Bydd Bil Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) yn ei gwneud yn drosedd i gyflenwi neu gynnig cyflenwi cynhyrchion plastig untro tafladwy diangen sy’n cael eu taflu fel sbwriel i ddefnyddwyr yng Nghymru.

Mae hyn yn darparu awdurdodau lleol â phwerau i orfodi’r drosedd, ac yn cynnwys:

  • cytleri
  • platiau
  • troyddion diod
  • gwellt diodydd – mae eithriad i’r cynnyrch hwn ar gyfer anghenion meddygol
  • ffyn cotwm sydd â choesau plastig
  • ffyn balwnau
  • cynhwysyddion cludfwyd polystyren allwthiedig ewynnog a pholystyren ehangedig
  • cwpanau polystyren allwthiedig ewynnog a pholystyren ehangedig
  • caeadau polystyren holl gwpanau a chynhwysyddion cludfwyd
  • bagiau siopau untro sydd wedi’u gwneud o blastig tenau
  • holl gynhyrchion sydd wedi’u gwneud o blastig ocso-ddiraddiadwy

Mae’r penderfyniad i gynnwys y cynhyrchion hyn yn dilyn ymgynghoriad a gynhaliwyd yn 2020, gyda phob un ohonynt â dewisiadau amgen di-blastig neu amldro.

Yn bwysig, a chyda chefnogaeth y Senedd, bydd y Bil hefyd yn rhoi’r pŵer i Weinidogion ychwanegu cynhyrchion, neu gael gwared ohonynt, gan roi Cymru wrth y llyw ar gyfer gweithredu yn y dyfodol.

Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn parhau i weithio gyda’r diwydiant, busnesau, cyrff y trydydd sector, y byd academaidd ac eraill er mwyn helpu i ddatblygu polisïau’r dyfodol.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.