Heddiw (28 Tachwedd 2023) mae deddfwriaeth newydd wedi'i phasio yn y Senedd, gan roi mwy o bwerau i Lywodraeth Cymru wella ansawdd aer a lleihau llygredd sŵn ledled Cymru.
Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi disgrifio llygredd aer fel y risg unigol mwyaf yn y byd o ran iechyd yr amgylchedd a llygredd sŵn fel yr ail risg fwyaf yng Ngorllewin Ewrop.
Mae'r Bil, a gyflwynwyd i'r Senedd ym mis Mawrth 2023, yn rhoi mesurau ar waith sy'n cyfrannu at welliannau o ran ansawdd yr amgylchedd aer yng Nghymru ac yn lleihau effeithiau llygredd aer ar iechyd pobl, bioamrywiaeth, yr amgylchedd naturiol a'n heconomi.
Mae'r Bil yn ategu ymhellach y gwaith o gyflwyno pecyn hanfodol o fesurau a nodir yn ein Cynllun Aer Glân i Gymru er mwyn gwella'r amgylchedd aer yng Nghymru.
Mae hefyd yn rhoi pwerau i Lywodraeth Cymru wneud polisïau sy'n mynd i'r afael â sŵn nad oes ei eisiau ac yn diogelu synau sy'n bwysig i bobl, fel trydar adar a synau ymlaciol byd natur, neu synau croesawgar canol tref fywiog.
Llywodraeth Cymru yw'r llywodraeth gyntaf yn y DU i gyflwyno deddfwriaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r llywodraeth ystyried seinweddau, ac mae'r Bil yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i hyrwyddo ymwybyddiaeth o lygredd aer a chyhoeddi strategaeth seinwedd genedlaethol flaengar.
I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Bil i fynd i'r afael â llygredd aer a sŵn wedi’i basio yn y Senedd, sy'n cefnogi dyfodol glanach, iachach a gwyrddach | LLYW.CYMRU