Gosodwyd y ddeddfwriaeth bwysig hon gerbron y Senedd ddydd Mawrth 7 Mehefin 2022. Bwriad Llywodraeth Cymru yw dod â'r Bil i rym cyn gynted â phosibl, ac rydym gobeithio ar hyn o bryd y bydd y ddeddfwriaeth yn derbyn Cydsyniad Brenhinol yn Ebrill/Mai 2023.
Mae'r Bil yn cyflawni un o ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu i roi sylfaen statudol i bartneriaeth gymdeithasol yng Nghymru. Ei nod yw gwella llesiant pobl Cymru drwy wella gwasanaethau cyhoeddus drwy weithio mewn partneriaeth gymdeithasol, gan hyrwyddo gwaith teg a phrosesau caffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol.
Mae'r Bil yn dwyn ynghyd 4 egwyddor, sef:
- Partneriaeth gymdeithasol – busnes/cyflogwyr a chynrychiolwyr gweithwyr yn gweithio gyda'i gilydd i drafod materion sydd o ddiddordeb cyffredin ac i ddatblygu atebion i'r heriau sy'n eu hwynebu.
- Caffael cymdeithasol gyfrifol – gweithredu, wrth brynu nwyddau a gwasanaethau, i wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol.
- Gwaith teg – amrywiaeth eang o weithgareddau posibl yn cael eu cyflawni gan gyflogwyr mewn cytundeb â'r gweithlu, sy'n cyfrannu at les a gwell darpariaeth o wasanaethau cyhoeddus.
- Datblygu cynaliadwy – gwneud pethau nawr mewn ffordd sy’n ystyried yr effaith ar bobl fydd yn byw eu bywydau yng Nghymru yn y dyfodol.
Mae'r Bil yn adeiladu ar hanes a llwyddiant y bartneriaeth gymdeithasol a phartneriaethau cydweithredu eraill yng Nghymru eisoes.
I ddysgu mwy ewch i Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) | LLYW.CYMRU. Mae nifer o adnoddau’n cael eu datblygu i gefnogi’r Bil, gan gynnwys map cydrannau sy’n amlinellu prif ddarpariaethau’r Bil a prif ddarpariaethau’r ddeddfwriaeth. Mae’r adnodd canlynol hefyd ar gael: Canllaw hawdd ei ddeall.
Gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y Bil drwy gofrestru ar gyfer cylchlythyr y Bartneriaeth Gymdeithasol. Mae'r cylchlythyr yn rhoi diweddariadau rheolaidd ar gynnydd y Bil, manylion dyddiadau a digwyddiadau allweddol o bob rhan o'r bartneriaeth gymdeithasol a gwaith teg a mynediad at adnoddau newydd. Cliciwch ar y ddolen ganlynol i danysgrifio: Tanysgrifio i gylchlythyr y Bartneriaeth Gymdeithasol | LLYW.CYMRU.