BioAccelerate yw rhaglen sbarduno parodrwydd am fuddsoddiad Arloesi Aber ar gyfer busnesau sydd yn eu camau cynnar a busnesau newydd sydd â’r nod o’ch helpu i wireddu’ch syniad arloesol. Mae ceisiadau ar agor i unigolion neu grwpiau sy’n awyddus i ddatblygu cynnyrch neu wasanaeth newydd yn y sectorau biowyddoniaeth, gofal iechyd, technoleg amaethyddol neu fwyd a diod.
Mae cymorth Arloesi gwerth £60,000 ar gael.
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw dydd Mawrth 21 Rhagfyr 2021.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i https://aberinnovation.com/en/our-community/bioaccelerate/