Mae gan Gymru ddiwydiant bwyd a diod bywiog, sy’n amrywio o fusnesau artisan bach i gwmnïau bwyd mwy. Mae’r busnesau hyn yn gwerthu pob math o gynnyrch – o eitemau arbenigol ar gyfer marchnadoedd penodol i eitemau ar raddfa fawr ar gyfer rhwydweithiau dosbarthu sylweddol.
Yn dilyn llwyddiant ysgubol y digwyddiad yn 2019, bydd BlasCymru/TasteWales 2021 yn dod â chynhyrchwyr, prynwyr a gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant bwyd at ei gilydd ar gyfer cynhadledd a digwyddiad bwyd a diod rhyngwladol nodedig. Ai 2021 fydd y tro cyntaf iddo gael ei gynnal yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru ar 27 a 28 Hydref 2021.
Nod cynhadledd Blas Cymru / Taste Wales 2021 yw ysbrydoli cynadleddwyr i weithredu yn eu sefydliadau a’u bywydau i fynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd a gyflwynir gan newid hinsawdd.
Bydd yn gyfle i feddwl am ddiogelu diwydiant bwyd a diod Cymru at y dyfodol, ac i barhau i ganolbwyntio ar ddatblygu byd-eang.
Drwy fod yn bresennol yng nghynhadledd Blas Cymru / Taste Wales 2021, cewch gyfle i glywed gan arbenigwyr o bob rhan o’r diwydiant bwyd a diod; yn ogystal ag awduron a chyflwynwyr amlwg ym maes cynaliadwyedd a newid hinsawdd.
Am Am ragor o wybodaeth, ewch I BlasCymru/TasteWales 2021 – Wales’ Premier Food & Drink Event