BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

BlasCymru/TasteWales 2023 – Cofrestrwch eich Diddordeb!

Bydd digwyddiad masnach bwyd a diod rhyngwladol Cymru, BlasCymru/TasteWales, yn cael ei gynnal ar 25 a 26 Hydref 2023.

Mae’r digwyddiad deuddydd a drefnir gan is-adran Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru yn dod â chynhyrchwyr bwyd a diod a phrynwyr cenedlaethol a rhyngwladol a gweithwyr proffesiynol y diwydiant bwyd at ei gilydd.

Mae’r digwyddiad, a gynhelir yn ICC Cymru yng Nghasnewydd, wedi bod yn allweddol mewn blynyddoedd blaenorol o ran creu cyfleoedd busnes newydd i fusnesau Cymreig ac mae wedi gweld cynnyrch o Gymru yn cael ei anfon o amgylch y byd i bobl ei fwynhau.

Mae bod yn y digwyddiad yn galluogi busnesau i ddod i gysylltiad, rhwydweithio a chynyddu eu proffil brand gyda chynhyrchwyr allweddol, prynwyr yn y DU ac yn rhyngwladol, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol ehangach y diwydiant. Bydd hyn i gyd yn digwydd yng nghyd-destun digwyddiad bwyd, cynhadledd ac arddangosfa o ansawdd uchel fydd yn cynnwys ffigyrau blaenllaw yn y diwydiant lle mae sesiynau un i un yn galluogi prynwyr i ymgysylltu â chynhyrchwyr Cymreig a darganfod yr angerdd y tu ôl i'w cynnyrch.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol BlasCymru/TasteWales 2021 – Wales’ Premier Food & Drink Event


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.