BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ble y dylem dyfu Coedwig Genedlaethol Cymru?

Mae Coedwig Genedlaethol Cymru yn fenter unigryw i greu rhwydwaith cenedlaethol o goetiroedd a choedwigoedd sy'n hygyrch i'r cyhoedd.

Bydd yn:

  • ymestyn hyd a lled Cymru, gan ei gwneud yn hygyrch i bawb
  • bod yn fenter gymunedol go iawn gyda choetiroedd newydd yn cael eu plannu gan gymunedau, ffermwyr a thirfeddianwyr ledled Cymru
  • creu ardaloedd newydd o goetiroedd yn ogystal ag adfer a chynnal coetiroedd unigryw ac anadferadwy Cymru
  • gwarchod natur a mynd i'r afael â cholli bioamrywiaeth, gan gefnogi iechyd a lles cymunedau hefyd

Dyma eich cyfle i ddweud wrthym ble yr hoffech i fwy o goed gael eu plannu fel y gallwn gydweithio â thirfeddianwyr i weld sut y gallwn dyfu’r Coedwig Genedlaethol i Gymru.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Ble y dylem dyfu Coedwig Genedlaethol Cymru? | MapDataCymru (llyw.cymru)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.