Deall eich rôl fel cyfarwyddwr cwmni a'ch cyfrifoldebau i Dŷ'r Cwmnïau.
Fel cyfarwyddwr, chi sy’n gyfrifol yn gyfreithiol am redeg y cwmni a sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei hanfon atom ar amser.
Mae hyn yn cynnwys:
- y datganiad cadarnhau
- y cyfrifon blynyddol, hyd yn oed os ydynt yn segur
- unrhyw newid yn swyddogion eich cwmni (tudalen Saesneg) neu eu manylion personol
- newid i swyddfa gofrestredig eich cwmni
- rhandir cyfranddaliadau
- cofrestru taliadau (morgais)
- unrhyw newid yn fanylion pobl â rheolaeth arwyddocaol (PrhA)
Gallwch logi pobl eraill i reoli rhai o’r pethau hyn o ddydd i ddydd (er enghraifft, cyfrifydd) ond rydych yn dal yn gyfreithiol gyfrifol am gofnodion, cyfrifon a pherfformiad eich cwmni.
I gael mwy o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol Bod yn gyfarwyddwr cwmni - GOV.UK (www.gov.uk)