Ni fydd unrhyw newid i’r trefniadau presennol ar gyfer prosiectau cyfredol a ariennir gan yr UE. Ni fydd y ffordd y caiff y prosiectau eu rheoli yn newid. Mae hyn yn cynnwys:
- cyflwyno a thalu hawliadau
- gwiriadau dilysu
- cadw cofnodion
Dylai prosiectau barhau i ddefnyddio WEFO Ar-lein i gyflwyno a diweddaru gwybodaeth.
Bydd prosiectau yn parhau i gael cyllid gan yr UE hyd nes y bydd y rhaglenni hynny’n cau yn 2023.
Mae hyn yn cynnwys:
- Rhaglenni’r Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd (Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Chronfa Gymdeithasol Ewrop)
- Rhaglenni Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd
- Rhaglen Iwerddon Cymru
Mae’r dyddiad cau presennol ar gyfer cyflawni’r rhaglenni, sef 31 Rhagfyr 2023, yn parhau heb ei newid.
Horizon 2020
Mae’n bosibl i chi ymgeisio am gyllid Horizon 2020 o hyd.
Ni wneir unrhyw newidiadau i’r cyllid gan yr UE ar gyfer prosiectau Horizon 2020 sydd eisoes wedi’u cymeradwyo. Bydd holl reolau a rheoliadau presennol yr UE yn parhau i fod yn gymwys.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Llyw.Cymru.