Bydd y Gronfa Buddsoddi i Gymru’n cynnig amrywiaeth o opsiynau cyllid masnachol gyda:
- benthyciadau llai o rhwng £25,000 a £100,000
- cyllid i ariannu dyledion £100,000 a £2 miliwn
- cyllid ecwiti hyd at £5 miliwn
Mae’r gronfa’n cwmpasu Cymru gyfan, gan gynnwys ardaloedd gwledig, arfordirol a threfol.
Bydd yn cynyddu’r cyflenwad a’r amrywiaeth o gyllid cyfnod ar gyfer busnesau llai ar gyfnod cynnar yn eu datblygiad ar draws Cymru, gan ddarparu cyllid ar gyfer busnesau na fyddai’n derbyn buddsoddiad fel arall o bosibl, ac yn helpu i chwalu’r rhwystrau i gael cyllid.
Mae’r gronfa newydd wedi ymgorffori ymwybyddiaeth am Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethiant (ESG) yn ei dyluniad, a bydd yn cynorthwyo economi’r DU i bontio i sero net.
I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Cronfa Buddsoddi i Gymru - British Business Bank (british-business-bank.co.uk)