Bydd degau o filoedd o staff gofal cymdeithasol a fydd yn gymwys i gael cyflog byw gwirioneddol o fis Ebrill yn cael taliad net ychwanegol o £1,000 wrth i Lywodraeth Cymru fuddsoddi yn y sector.
Bydd y taliad ychwanegol, a fydd yn cael ei roi ar yr un adeg â chyflwyno’r cyflog byw gwirioneddol, yn £1,498 cyn didyniadau treth ac yswiriant gwladol. Gall gweithwyr gofal sy’n talu treth incwm ar y gyflog sylfaenol ddisgwyl cael £1,000 ar ôl didyniadau.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ariannu ymgyrch recriwtio cenedlaethol ac yn cymryd camau i broffesiynoli’r sector a gwella’r cyfleoedd gyrfa.
Am ragor o wybodaeth ewch i LLYW.Cymru