BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Buddsoddiad band eang gwerth £12 miliwn yn darparu cysylltiadau cyflym

Ally John, a resident at Parklands Care Home, video calls with her son and his dog.

O gartrefi gofal i barciau gwledig, mae rhyngrwyd cyflym yn chwyldroi bywyd ledled Cymru.

Mae busnesau a chymunedau ledled Cymru yn gweld manteision buddsoddiad bron i £12 miliwn o arian Llywodraeth Cymru mewn band eang lleol cyflym a dibynadwy. Mae'r hwb sylweddol hwn mewn cysylltedd yn trawsnewid bywyd bob dydd, gwella gwasanaethau cyhoeddus, ac agor cyfleoedd newydd ar gyfer twf economaidd.

Mae sawl ardal ar draws Cymru eisoes wedi gweld gwelliannau rhyfeddol.

Bellach mae gan dri chartref gofal preswyl i oedolion yng Nghasnewydd, gan gynnwys Cartref Gofal Parklands, fand eang ffeibr llawn a all drosglwyddo data ar gyfradd gigabeit am y tro cyntaf. Mae hyn wedi ei gwneud hi'n haws i breswylwyr gadw mewn cysylltiad â'u teuluoedd drwy apiau fel Skype a Zoom. Mae'r cartrefi hefyd wedi cyflwyno technoleg gynorthwyol i helpu aelodau staff i fonitro preswylwyr â chyflyrau iechyd yn effeithlon.

Ym Mro Morgannwg, mae band eang lleol cyflym o hyd at 100Mbps bellach ar gael mewn safleoedd poblogaidd fel Parc Gwledig Llynnoedd Cosmeston ac Arfordir Treftadaeth Morgannwg. Mae'r uwchraddiad hwn yn gwella profiadau ymwelwyr ac yn cefnogi cyfleoedd i ddod o hyd i addysg a chyflogaeth yn lleol.

Yn ogystal, mae gan 17 o wasanaethau'r sector cyhoeddus yng Ngogledd Cymru - gan gynnwys llyfrgelloedd gwledig a chynghorau cymuned - gysylltiadau ffeibr i adeiladau erbyn hyn, gyda chyflymder llwytho i lawr o leiaf 80Mbps.

Yng Nghaerdydd, mae’r cam cyntaf sy'n cynnwys 83 adeilad, a oedd gynt wedi'u cyfyngu i wasanaethau is na 30Mbps, bellach yn gysylltiedig â chyflymder rhyngrwyd gigabit. Mae'r cam nesaf ar y gweill ac yn gweithio i ddarparu cysylltedd tebyg i 632 adeilad arall. Mae'r prosiect hwn hefyd yn darparu band eang "am ddim am oes" a all drosglwyddo data ar gyfradd gigabit i bymtheg o fannau canolfannau cymunedol, gan gefnogi mentrau lleol a rhaglenni addysgol.

Mae'r gwaith i ehangu band eang yn parhau gyda nifer o brosiectau parhaus i'w cwblhau erbyn mis Mawrth 2025 yn Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gaerfyrddin a Phowys.

Mae'r fenter hon yn rhan o strategaeth ehangach Llywodraeth Cymru i wella seilwaith digidol, gan sicrhau bod gan bob cymuned fynediad at y cysylltedd sydd ei angen arnynt i ffynnu. Mae'r Gronfa Band Eang Lleol, a lansiwyd yn 2020, wedi dyrannu £12 miliwn ar draws pedwar cam cyllido, gyda'r bwriad o gwblhau'r holl brosiectau erbyn mis Mawrth 2025.

I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: Buddsoddiad band eang gwerth £12 miliwn yn darparu cysylltiadau cyflym | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.