BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Buddsoddiad Cymru Greadigol yn hybu economi Cymru ac yn helpu'r sector yng Nghymru i ffynnu

Mae buddsoddiad Cymru Greadigol mewn cynyrchiadau wedi rhoi hwb o £187 miliwn i economi Cymru ers iddi gael ei chreu yn 2020, meddai Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden heddiw (20 Mehefin 2023).

Datgelodd y Dirprwy Weinidog y ffigurau yn nigwyddiad arddangos personol cyntaf Cymru Greadigol sy'n cael ei gynnal yng Nghaerdydd, a fydd yn dathlu llwyddiannau'r sector ac yn amlinellu cynlluniau ar gyfer twf a datblygiad yn y dyfodol.

Ers ei sefydlu, mae Cymru Greadigol, asiantaeth greadigol Llywodraeth Cymru, wedi buddsoddi £16.3 miliwn mewn cyllid cynhyrchu i 31 o brosiectau, gan gynhyrchu dros £187 miliwn i economi Cymru a dangos mwy na 11:1 o Enillion ar Fuddsoddiad ar gyfer yr economi.

Mae'r buddsoddiad hwn hefyd wedi creu miloedd o gyfleoedd i weithlu talentog Cymru ac mae eisoes wedi arwain at fwy na 265 o leoliadau â thâl i hyfforddeion sy'n ceisio torri i mewn i'r diwydiant.

Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol Buddsoddiad Cymru Greadigol yn hybu economi Cymru ac yn helpu'r sector yng Nghymru i ffynnu | LLYW.CYMRU

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.