BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Buddsoddiad gwerth £51m yng Nghasnewydd yw'r bennod ddiweddaraf yn stori lwyddiant lled-ddargludyddion cyfansawdd Cymru

semiconductors

Mae cwmni Americanaidd mawr ym maes lled-ddargludyddion cyfansawdd, Vishay Intertechnology, wedi cyhoeddi ei fod yn buddsoddi £51miliwn yn Newport Wafer Fab - cyfleuster lled-ddargludyddion mwyaf y DU - gan ddod â galluoedd ystod o gynnyrch newydd a chyfleoedd ar gyfer swyddi medrus i Gasnewydd.

Mae'r buddsoddiad wedi cael ei gefnogi gan £5 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru a dyma'r diweddaraf mewn rhestr hir o newyddion da i glwstwr De Cymru – sy'n parhau i ddenu diddordeb a chydnabyddiaeth ryngwladol. Mae'r cynnydd diweddar yn cynnwys: 

  • ail gwmni o'r Unol Daleithiau, KLA, yn adeiladu ei bencadlys Ewropeaidd newydd ym Mharc Imperial, Casnewydd.  Gyda buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn seilwaith y grid ar y safle, mae'r datblygiad 215,000 troedfedd sgwâr, $100 miliwn yn creu canolfan arloesi a chyfleuster gweithgynhyrchu rhagorol a bydd yn cynnwys ystafelloedd glân ar gyfer ymchwil a datblygu a gweithgynhyrchu. Mae recriwtio hyd at 750 o weithwyr eisoes yn mynd rhagddo.   
  • Mae Centre 7, cyfleuster o'r radd flaenaf a gefnogir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'i Strategaeth Ryngwladol, eisoes yn denu mewnfuddsoddwyr gan gydnabod bod Cymru’n fan poblogaidd ar gyfer lled-ddargludyddion, gyda Microlink Devices a CS Connected y tenantiaid cyntaf ar y safle 51,000 troedfedd sgwâr ym Mhorth Caerdydd.   
  • Prosiect ymchwil sero net gwerth £2.5m yng Nghanolfan Deunyddiau Lled-ddargludyddion Prifysgol Abertawe. Mae'n arloesi o ran lleihau allyriadau adeiladau ar gyfer y diwydiant lled-ddargludyddion ac mae ganddo gytundebau ymchwil gydag aelodau diwydiannol fel Vishay, sydd â nifer o gyn-fyfyrwyr Abertawe ymhlith ei swyddogion gweithredol. 
  • Cynhaliodd Prifysgol Caerdydd gynhadledd dechnegol ryngwladol fawreddog ym mis Hydref ar ddyfeisiau pŵer lled-ddargludyddion, a bydd Cymru'n croesawu taith o'r tu allan gan gwmnïau lled- ddargludyddion o Ganada yn y gwanwyn. 

Am ragor o wybodaeth dewiswch y ddolen ganlynol: Buddsoddiad gwerth £51 miliwn yng Nghasnewydd yw'r bennod ddiweddaraf yn stori lwyddiant lled-ddargludyddion cyfansawdd Cymru | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.