Bydd y buddsoddiad mawr o dros £1 biliwn i ailddatblygu Melin Shotton yng Nglannau Dyfrdwy yn y Gogledd yn diogelu 147 o swyddi ac yn creu 220 o swyddi newydd pan fydd y datblygiad ar ei anterth, meddai llywodraethau'r DU a Chymru.
Daw'r cyhoeddiad cyn yr Uwchgynhadledd Fuddsoddi fis nesaf a fydd yn ei gwneud yn glir bod y DU "ar agor i fusnes" wrth i lywodraeth y DU bennu o'r newydd ei pherthynas â phartneriaid masnachu ledled y byd a chreu amgylchedd gartref sy'n cefnogi busnes, arloesedd a swyddi o ansawdd uchel ac a fydd yn chwarae rhan allweddol i gynnal y twf di-dor mwyaf o holl wledydd y G7.
Mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo bron £13 miliwn o gyllid, hynny ynghyd â'r £136 miliwn o gymorth y bydd UK Export Finance (UKEF), asiantaeth credyd allforio llywodraeth y DU, yn ei roi.
Mae Eren Holding o Dwrci yn gwmni cynhyrchu cynwysyddion a chardbord rhychiog ac mae'n cael ei ystyried yn un o brif gynhyrchwyr Ewrop. Bydd ei gynlluniau'n golygu mai Melin Shotton fydd ffatri bapur fwyaf y DU. Bydd hynny'n hwb i gynhyrchu papur yn y DU drwy ailgylchu papur gwastraff a fyddai fel arall yn mynd dramor neu i safleoedd tirlenwi.
Bydd bron i 100% o'r papur a gynhyrchir gan y ffatri yn bapur wedi'i ailgylchu. Mae ei fodel cynhyrchu yn un eco-gyfeillgar gan ei fod yn puro ei ddŵr gwastraff ei hun ac yn ei ailddefnyddio yn y system. Drwy hynny, bydd yn helpu i greu swyddi da sy'n talu'n dda yn niwydiannau gwyrdd y dyfodol.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Buddsoddiad o £1 biliwn yn sicrhau dros 300 o swyddi yn y Gogledd | LLYW.CYMRU