Y mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi, £4.5 miliwn yn ychwanegol o gyllid cyfalaf ar gyfer cyfleusterau chwaraeon newydd ar draws Cymru, dywedodd y Dirprwy Weinidog Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden.
Bydd y cyllid cyfalaf ychwanegol yn cefnogi prosiectau a fydd yn cael eu darparu drwy Chwaraeon Cymru i wella cyfleusterau, er mwyn i ragor o bobl gael cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o chwaraeon.
Mae hyn yn golygu bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi cyfanswm o £13.2 miliwn o gyllid cyfalaf mewn chwaraeon eleni i gefnogi prosiectau ym mhob cwr o Gymru.
Am ragor o wybodaeth, ewch i LLYW.Cymru