BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Busnesau Lleol ac ysgolion yn cydweithio i greu cyfleoedd gwaith i bobl ifanc

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles wedi croesawu gwaith ymchwil newydd sy’n edrych ar sut y gall busnesau weithio gydag ysgolion a cholegau er budd pobl ifanc i’r dyfodol.

Mae adroddiad ‘Pontio i Fyd Gwaith’, gan Dr Hefin David AS, wedi’i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru.

Mae rhai o argymhellion adroddiad ‘Pontio i Fyd Gwaith’ eisoes yn cael eu gweithredu. Fis diwethaf, cyhoeddodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg £500,000 ar gyfer cynllun profiad gwaith pwrpasol i ddysgwyr ifanc sy’n ymddieithrio oddi wrth addysg ac mewn perygl o fod yn NEET.

Mae Addysg Gyrfaoedd a Phrofiadau sy’n Gysylltiedig â Byd Gwaith yn rhan orfodol o’r Cwricwlwm i Gymru erbyn hyn, o 3 i 16 oed, gan ddod â’r maes i sylw ysgolion cynradd yn ogystal ag ysgolion uwchradd.

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol Busnesau Lleol ac ysgolion yn cydweithio i greu cyfleoedd gwaith i bobl ifanc | LLYW.CYMRU

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.