BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Busnesau mewn perygl o golli gallu i fewnforio nwyddau

Mae'n rhaid i fusnesau sy'n cyflwyno datganiadau mewnforio ddefnyddio'r Gwasanaeth Datganiadau Tollau o 1 Hydref 2022, pan fydd y system Tollau ar gyfer Trin Nwyddau a Gaiff eu Mewnforio a’u Hallforio (CHIEF) yn cau ar gyfer datganiadau mewnforio.

Dylai busnesau wirio bod eu hasiantau tollau yn barod i ddefnyddio'r Gwasanaeth Datganiadau Tollau. Rhaid i'r rheiny sydd heb asiant tollau drefnu gwneud eu datganiadau eu hunain gan ddefnyddio meddalwedd sy'n gweithio gyda'r system.

Gall gymryd sawl wythnos i gael eu sefydlu'n llawn ar y Gwasanaeth Datganiadau Tollau, felly mae’r rheiny sy'n aros i gofrestru mewn perygl o beidio â gallu mewnforio nwyddau i'r DU o 1 Hydref 2022.

Er mwyn helpu pob busnes ac asiant i baratoi ar gyfer y Gwasanaeth Datganiadau Tollau, cysylltir â datganwyr dros y ffôn a thrwy e-bost i'w hysbysu am y camau y mae angen iddynt eu cymryd. Mae mwy o wybodaeth ar gael am GOV.UK, gan gynnwys pecyn gwybodaeth a rhestrau gwirio y Gwasanaeth Datganiadau Tollau, sy'n dadansoddi'r camau y mae angen i fasnachwyr eu cymryd.

Gall masnachwyr hefyd gofrestru neu wirio bod ganddynt fynediad at y Gwasanaeth Datganiadau Tollau ar GOV.UK a chyrchu gwasanaethau cymorth cwsmeriaid byw i gael help ychwanegol.

Ar ôl cofrestru, bydd angen i fusnesau sy'n defnyddio Cyfrif Gohirio Tollau sefydlu Cyfarwyddyd Debyd Uniongyrchol newydd ar gyfer y Gwasanaeth Datganiadau Tollau erbyn 30 Medi 2022. Os na fydd hyn yn cael ei sefydlu, ni fydd modd defnyddio'r Cyfrif Gohirio Tollau mwyach, a bydd angen gwneud taliadau unigol ar unwaith bob tro y gwneir datganiad mewnforio.

Fe fydd CHIEF yn cau ar gyfer datganiadau allforio ar 31 Mawrth 2023, a bydd yn ofynnol i fusnesau ddefnyddio'r Gwasanaeth Datganiadau Tollau i anfon nwyddau allan o'r DU. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.