BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Busnesau sy’n deall dementia

Dysgwch sut gall eich busnes ddeall dementia yn well a chael canllaw rhad ac am ddim. 

O fanwerthu i dai, cyfleustodau i adloniant, cyllid i drafnidiaeth, mae gan bob sector ran i’w chwarae.

Gall pob busnes gyfrannu at fynd i’r afael ag effaith gymdeithasol ac economaidd dementia. Mae ystadegau’n dangos bod llai na hanner (47%) o’r bobl sy’n byw gyda dementia yn teimlo’n rhan o’u cymuned (Cymdeithas Alzheimer’s, 2013), a dywedodd 28% eu bod wedi rhoi’r gorau i fynd allan o’r tŷ hyd yn oed.

Gall busnesau a sefydliadau wneud gwahaniaeth mawr i bobl â dementia a’u gofalwyr trwy ymrwymo i ddeall dementia yn well. Mae dod yn fusnes sy’n deall dementia nid yn unig yn gam cyfrifol yn gymdeithasol ond fe all hefyd arwain at fuddion economaidd.

I gael rhagor o wybodaeth a lawrlwytho’r canllaw, dilynwch y ddolen ganlynol Dementia-friendly businesses | Alzheimer's Society (alzheimers.org.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.