BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Bwletin Cyflogwyr CThEM Rhagfyr 2021

Mae rhifyn mis Rhagfyr y Bwletin Cyflogwyr yn dod â holl ddiweddariadau a chanllawiau CThEM at ei gilydd i gefnogi cyflogwyr ac asiantau cyflogres.

Mae gwybodaeth bwysig i chi am:

  • y Cynllun Talu Wrth Ennill (PAYE) - mae gwybodaeth bwysig i’r rhai sy’n talu gweithwyr yn gynnar ar gyfer y Nadolig, a chyngor a sut i atal a chywiro camgymeriadau cyflogres
  • Pontio’r DU a’r Confensiwn DU-Swistir y cytunwyd arno’n ddiweddar ar gydlynu Nawdd Cymdeithasol a ddaeth i rym ar 1 Tachwedd 2021
  • crynodeb o ganllawiau coronafeirws (COVID-19) a gyhoeddwyd gan CThEM, a datgan grantiau ar ffurflenni treth
  • diweddariadau treth a newidiadau i ganllawiau, gyda gwybodaeth am yr ymgyrch osgoi treth

Mae’r bwletin cyflogwyr ar gael ar-lein yn unig. Gallwch gofrestru ar gyfer gwasanaeth e-bost hysbysu cyflogwyr CThEM i dderbyn e-bost gan CThEM sy’n dweud wrthych pan fydd y rhifyn diweddaraf ar gael.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK 

 



 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.