Mae Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie yn helpu arweinwyr yn y sector gwirfoddol i ddatblygu eu sgiliau arwain.
Bydd bwrsari gwerth £2,500 yn cael ei ddyfarnu bob blwyddyn i rywun mewn rôl arwain o fewn mudiad gwirfoddol yng Nghymru. Gallai hyn fod yn rhywun sy’n gweithio mewn menter gymdeithasol sydd â syniad i ddatblygu eu gweithgaredd masnachu, neu arweinydd yn y sector sydd am gynhyrchu incwm drwy fasnachu am y tro cyntaf.
Mae’r terfynau ar sut y gellir gwario’r bwrsari yn agored ac anogir ymgeiswyr i feddwl am syniadau diddorol i gefnogi eu datblygiad eu hunain fel arweinydd. Gellid, er enghraifft, ddefnyddio’r arian:
- ar gwrs astudio penodol
- i ariannu ymweliad, dramor o bosib, i weld y ffordd y mae eraill yn gwneud pethau, neu
- unrhyw beth y mae’r buddiolwr yn teimlo a fydd yn ei symud ymlaen ac yn symud ei fudiad ymlaen
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 1 Hydref 2024, 5pm.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie - CGGC (wcva.cymru)