BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Bwyd dros ben ag amcan

Mae dargyfeirio'ch bwyd dros ben i elusennau rheng flaen yn haws nag yr ydych chi'n meddwl.

Gallai’ch busnes fod yn gymwys i hawlio nawdd i helpu lleihau’ch gwastraff bwyd wrth helpu pobl sydd mewn perygl o ansicrwydd bwyd.

Mae Cronfa Bwyd Dros Ben ag Amcan Cymru ar agor i gwmnïoedd Cymreig sydd â bwyd sy’n fwytadwy, ond yn mynd yn wastraff oherwydd ei fod yn rhy gostus neu’n anaddas ar gyfer defnydd masnachol.

Amcan y gronfa yw goresgyn y rhwystrau mae busnesau bwyd a diod Cymreig (ffermwyr, tyfwyr, cynhyrchwyr, gwneuthurwyr, cyfanwerthwyr a.y.b.) yn eu hwynebu wrth ystyried ail-ddosbarthu bwyd dros ben i elusen.

Gallai’r gronfa helpu gyda chostau tasgau fel:

  • Llafur
  • Pecynnu
  • Rhewi
  • Cynaeafu
  • Trafnidiaeth
  • Pethau eraill…

Mae'r gronfa yn cau ar 28 Chwefror 2022 felly cysylltwch â welshfood@fareshare.cymru  i drafod.

Am ragor o wybodaeth, ewch i Bwyd dros ben ag amcan - FareShare Cymru

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.