Ydych chi wedi ystyried ailddosbarthu bwyd dros ben ond wedi wynebu rhwystrau?
Mae’r gronfa Bwyd dros Ben ag Amcan Cymru yn sicrhau ei bod hi’n hawdd i fusnesau bwyd a diod yng Nghymru i gyfrannu bwyd dros ben. Gallai’r gronfa helpu eich busnes i oresgyn rhwystrau a helpu gyda chostau sy’n ymwneud â llafur, pecynnu, rhewi, cynaeafu a chludo. O wallau labelu i gyflenwad sydd y tu hwnt i’r dyddiad gorau erbyn, gallai’r fenter hon eich cynorthwyo i fynd i’r afael â’ch problem gwastraff, gan fanteisio ar broblem amgylcheddol i gynnig ateb lle mae’r gymdeithas yn elwa.
Sut allwch chi elwa?
- Byddwch yn cyfrannu at y gwaith o leihau gwastraff bwyd ac yn sicrhau caiff y bwyd dros ben ei ddosbarthu i’r rheiny mewn angen
- Byddwch yn helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn cymunedau Cymraeg
- Gwella ôl-troed carbon eich cwmni
- Bodloni amcanion cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol eich cwmni
I wybod mwy neu i gyfrannu tuag at ein hymdrechion lleihau gwastraff a threchu newyn, ewch i: Bwyd dros ben ag amcan - FareShare Cymru