Bydd busnesau manwerthu yn cael ailddechrau masnachu os gallant gymryd pob cam rhesymol i gydymffurfio â'r ddyletswydd yng nghyfraith Cymru i gadw pellter cymdeithasol, a hynny er mwyn arafu lledaeniad yr haint a diogelu gweithwyr a chwsmeriaid mewn siopau.
Mae'r newidiadau yn rhan o gyfres gynhwysfawr o gamau a fydd yn cael eu cyflwyno gam wrth gam bob dydd Llun.
Daw hyn yn sgil pedwerydd adolygiad statudol Gweinidogion Cymru o reoliadau’r coronafeirws, gan ddefnyddio'r dystiolaeth wyddonol a meddygol ddiweddaraf gan Grŵp Cynghori Gwyddonol y DU ar gyfer Argyfyngau, Cell Cyngor Technegol Llywodraeth Cymru a chyngor gan Brif Swyddog Meddygol Cymru.
Adeg yr adolygiad nesaf, ar 9 Gorffennaf, bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried amryw o opsiynau penodol ar gyfer agor:
- llety gwyliau hunangynhwysol
- gwasanaethau gofal personol, fel gwasanaethau trin gwallt a harddwch, drwy apwyntiad
Bydd trafodaethau hefyd yn cael eu cynnal â'r sector lletygarwch ynghylch y posibilrwydd o ailagor tafarndai, caffis a bwytai yn raddol, gan gynnal rheolau llym o ran cadw pellter cymdeithasol.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llyw.Cymru.
Ewch i’r tudalennau Cyngor i fusnesau ar y coronafeirws ar wefan Busnes Cymru i gael gwybodaeth ar gyfer eich busnes ynglŷn â delio â’r coronafeirws.