BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Bydd sector lletygarwch Cymru yn paratoi i ailagor yn yr awyr agored o 13 Gorffennaf 2020

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y cam cyntaf o gynlluniau i ailagor barrau, bwytai a caffis sydd â mannau awyr agored, yn dilyn adolygiad cyflym o’r sector.   

Gwneir penderfyniad terfynol ynghylch ailagor yn yr adolygiad nesaf o’r Rheoliadau Coronafeirws ar 9 Gorffennaf, a bydd yn dibynnu ar a yw nifer yr achosion o’r coronafeirws yn parhau i ostwng.   

Gwneir penderfyniadau ynghylch ailagor y sector o dan do maes o law, a bydd llawer yn dibynnu ar lwyddiant y cam cyntaf o agor y sector yn yr awyr agored.

Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi’r amserlen ar gyfer ailagor atyniadau ymwelwyr yn yr awyr agored, ac agor yn rhannol y diwydiant twristiaeth yng Nghymru am weddill tymor yr haf. 

Os yw’r gofyniad i aros yn lleol yn cael ei godi yng Nghymru ar 6 Gorffennaf, bydd atyniadau i ymwelwyr yn yr awyr agored yn gallu ailagor ar ddydd Llun.

Yn ogystal, yn dibynnu ar yr adolygiad o’r Rheoliadau Coronafeirws ar 9 Gorffennaf, mae’r sector twristiaeth yn paratoi i ailagor llety hunangynhaliol.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Llyw.Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.