![Daniel Bristow co-founder of Studio Bristow Garden Design](/sites/maingel2/files/styles/post_featured/public/images/Daniel%20Bristow%2C%20founder%20and%20co-director%20of%20Studio%20Bristow.jpg.webp?itok=Sz_-zokL)
Cwmni ynni adnewyddadwy llwyddiannus, sy’n eiddo i’r gymuned oedd y lleoliad perffaith i'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James ac Aelod Dynodedig Plaid Cymru, Siân Gwenllian lansio Ynni Cymru – cwmni ynni newydd, sydd ym mherchnogaeth y cyhoedd yng Nghymru.
Mae Ynni Cymru, sydd wedi'i leoli yn M-SParc, Ynys Môn, yn cael ei sefydlu i ehangu cynhyrchu ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i'r gymuned ledled Cymru fel rhan o'r Cytundeb Cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.
Mae gwaith cwmpasu cynnar wedi nodi bod posibilrwydd cryf i Ynni Cymru roi Cymru ar flaen y gad o ran datblygu a chyflawni prosiectau ynni lleol doethach.
I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol Bydd Ynni Cymru yn rhyddhau potensial ynni gwyrdd Cymru | LLYW.CYMRU