BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Byddwch yn rhan o Fyw’n Gylchol yng Nghymru

Person upcycling furniture in workshop

Er bod masgynhyrchu nwyddau, fel dillad, ffonau ac eitemau i’r tŷ, wedi golygu mwy o amrywiaeth, llai o gost a’i gwneud yn haws prynu, mae hefyd wedi arwain at niwed sylweddol i'r amgylchedd.

Mae Wrap Cymru angen eich barn, eich syniadau, eich heriau a’ch awgrymiadau ynglŷn â pha gamau sydd angen i holl drigolion, busnesau a sefydliadau Cymru eu cymryd i ddod yn ddiwylliant lle rydym i gyd yn trwsio ac ailddefnyddio.

Mae’r ’Strategaeth Mwy Nag Ailgylchu’ yng Nghymru yn anelu at newid y trywydd hwn drwy symud tuag at “ddiwylliant cyffredinol o ailddefnyddio, trwsio ac ailweithgynhyrchu yn ein cymunedau a chanol trefi.” Mae Rhaglen Lywodraethu 2021 i 2026 Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ddatblygu “80 o ganolfannau atgyweirio ac ailddefnyddio yng nghanol trefi” a “hyrwyddo cyfleusterau atgyweirio ac ailddefnyddio i annog siopa diwastraff.”

Fel rhan o’r gwaith atgyweirio ac ailddefnyddio ehangach hwn, comisiynodd Llywodraeth Cymru Wrap Cymru i ymchwilio a chynhyrchu set o gamau gweithredu sydd eu hangen i symud Cymru tuag at ddiwylliant cyffredinol o drwsio ac ailddefnyddio.

Mae’r ymgynghoriad yn agored i drigolion, busnesau a sefydliadau Cymru:

Byddwch yn gweld cyfuniad o gwestiynau yn ymwneud â’r map trywydd a chyfle i gyflwyno eich barn, camau gweithredu a’ch syniadau. Bydd deall ychydig amdanoch chi yn helpu WRAP Cymru i sicrhau bod ganddyn nhw farn gyfunol o adborth gan drigolion, busnesau a sefydliadau yng Nghymru.

Mae'r ymgynghoriad yn cau ar 20 Hydref 2024.  

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Tuag at Ddiwylliant Cyffredinol o Atgyweirio ac Ailddefnyddio yng Nghymru: Mae’r ymgynghoriad nawr ar agor | WRAP (wrapcymru.org.uk) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.