BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Byddwch yn Seren Busnes Bach

Codwch arian i elusen sy’n golygu’r byd i chi wrth werthu’ch cynnyrch neu’n gwasanaethau dros y Dolig.

Mae tymor y Nadolig yn adeg gyffrous! Dyma’r cyfnod gwerthu prysuraf, ond mae hefyd yn dymor ewyllys da.

Dyma’r amser perffaith i’ch busnes bach gysylltu â’ch cymuned a gwneud gwahaniaeth go iawn ac mae gan ‘Work for Good’ gronfa cyllid cyfatebol o £50,000 i’ch helpu i greu mwy o argraff nag erioed!

Cymerwch ran mewn 3 cham hawdd:

1. Gweithio er Lles
Codwch arian i elusen sy’n golygu’r byd i chi drwy addo rhoi £ neu % o werthiant eich cynhyrchion neu wasanaethau drwy’r ffurflen rhoi! Mewngofnodwch neu cofrestrwch ar y ddolen ganlynol https://app.workforgood.co.uk/register/business/ 

2. Rhannwch eich ymdrechion codi arian
Lawrlwythwch y pecyn adnoddau i’ch helpu i roi gwybod i’ch cwsmeriaid neu gleientiaid am eich ymdrechion i godi arian a’u gwneud i deimlo’n rhan o’r ewyllys da tymhorol. 

3. Dyblwch eich effaith
I’ch helpu i gael mwy o effaith nag erioed, mae gan ‘Work for Good’ gronfa gyfatebol o £50,000 ar gael! Talwch i mewn yr arian rydych chi wedi’i godi, o 9am ddydd Llun 6 Rhagfyr, a bydd ‘Work for Good’ yn dyblu’ch rhoddion hyd at £250 y busnes, hyd nes y bydd y gronfa cyllid cyfatebol yn dod i ben.

Am ragor o wybodaeth, ewch i https://workforgood.co.uk/small-business-star/businesses/ 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.